Neidio i'r cynnwys

Ffordd yr A465

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o A465)
Ffordd yr A465
Mathffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Swydd Henffordd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8442°N 2.9999°W Edit this on Wikidata
Hyd66 milltir Edit this on Wikidata
Map

Un o briffyrdd Cymru, sy'n rhedeg o'r gorllwein i'r dwyrain gan gysylltu blaenau cymoedd glofäol y De yw'r A465, neu Ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Hawdd yw rhannu'r ffordd hon yn ddwy: "Ffordd Blaenau'r Cymoedd" sy'n gyswllt bwsig rhwng de-orllewin Cymru a chanolbarth Lloegr (ar hyd yr A40 a'r M50); a siwrnai ddymunol wledig drwy Swydd Henffordd.

Dechreua'r ffordd ar gyffordd 43 (Llandarcy) Traffordd yr M4 ar ffurf ffordd ddeuol ac yn rhedeg yr holl ffordd i fyny Cwm Nedd. Agorwyd rhan newydd rhwng Tonna a Glyn-Nedd ym 1997 er mwyn dargyfeirio traffig oddi ar yr hen heol droellog (y B4242 bellach). Heibio Glyn-Nedd, mae'r A465 yn dringo'r rhiw i Hirwaun le daw'r A4059 o'r Bannau Brycheiniog a'r A4061 o Gwm Rhondda Fawr at ei gilydd ar ffurf cylchfan.

Mae'n tueddu i basio heibio, yn hytrach na thrwy, trefi blaenau'r cymoedd, megis Merthyr Tudful, Tredegar a Glyn Ebwy nes cyrraedd Y Fenni. Â'r ffordd ymlaen trwy Lanfihangel Crucornau i Loegr a Henffordd.

Dechreuodd y gwaith i wneud Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ffordd ddeuol lawn yn 2002. Cwblhaodd y prosiect ym Mai 2025.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Cwblhau'r gwaith ar ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi 23 blynedd", BBC Cymru Fyw, 31 Mai 2025; adalwyd 31 Mai 2025

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]