Bahrain

Oddi ar Wicipedia
Bahrain
Teyrnas Bahrein
مملكة البحرين
Mamlakat al-Baḥrayn
ArwyddairOurs. Yours. Bahrain Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, ynysfor Edit this on Wikidata
PrifddinasManama Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,311,134 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd15 Awst 1971 o Loegr[1]
AnthemBahrainona Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSalman bin Hamad, Crown Prince of Bahrain Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Asia/Bahrain Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, De-orllewin Asia, Gulf States Edit this on Wikidata
GwladBahrain Edit this on Wikidata
Arwynebedd786.5 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSawdi Arabia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.0675°N 50.55111°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Bahrain Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
brenin Bahrain Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethHamad II of Bahrain Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Bahrain Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSalman bin Hamad, Crown Prince of Bahrain Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$39,303 million, $44,391 million Edit this on Wikidata
ArianBahraini dinar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.056 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.875 Edit this on Wikidata

Gwlad Arabaidd, fechan yng Ngwlff Persia yw Teyrnas Bahrein neu Bahrein (Arabeg: مملكة البحرينYnghylch y sain ymaMamlakat al-Baḥrayn). Mae'n un o wledydd y Dwyrain Canol a hefyd yn rhan o orllewin Asia. Mae'r wlad yn cynnwys nifer o ynysoedd. Mae wedi'i lleoli rhwng arfordir gogledd-ddwyreiniol Sawdi Arabia, a phenrhyn Qatar: mewn geiriau eraill: saif rhwng Gwlff Persia a'r Dwyrain Canol. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Manama. Mae arwynebedd y wlad yn 295.37 mi sgwâr (765 km2); mewn cymhariaeth, mae arwynebedd Ynys Môn yn 276 milltir sgwâr (715 km2).

Canolbwynt a chanolfan weinyddol Bahrain yr ynysfor (archipelago) hon yw Ynys Bahrain ei hun: y fwyaf ohonynt. Mae Saudi Arabia 23 km (14 mill) i ffwrdd ohoni a gelwir y ffordd sy'n eu cysylltu yn 'Gob y Brenin Fahd', sy'n gymysgedd o gobiau a phontydd. Mae Penrhyn Qatar hefyd yn eitha agos - 50 km (31 mill) i'r de-ddwyrain, a gelwir y môr sy'n eu gwahanu yn Wlff Bahrain. 200 km (124 mill) i'r gogledd ar draws Gwlff Persia mae Iran.

Poblogaeth Teyrnas Bahrein yn 2010 oedd 1,234,567 gyda 666,172 ohonynt yn dramorwyr.[2] Mae arwynebedd y wlad yn 780 km2 sy'n ei gosod yn drydydd wlad lleiaf yn Asia, yn dilyn y Maldives a Singapôr.[3]

Bahrein

Protestiadau 2011[golygu | golygu cod]

Yn Ionawr 2011 gwelwyd llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Deffroad Mwslemaidd" ac erbyn Chwefror roedd wedi cyrraedd Bahrein. Lladdwyd 5 o sifiliaid ar 18 Chwefror pan saethodd yr heddlu i ganol y dorf. Ar 14 Mawrth gyrrodd milwyr Sawdi Arabia a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig er mwyn gwarchod gweithfeydd nwy ac arian y wlad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "CIA – The World Factbook – Bahrain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-24. Cyrchwyd 2016-12-11.
  2. "General Tables". Bahraini Census 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-22. Cyrchwyd 3 Mawrth 2012.
  3. "The smallest countries in the world by area". countries-ofthe-world.com.