Cwpan y Byd Pêl-droed 2022

Oddi ar Wicipedia
Cwpan y Byd Pêl-droed 2022
Cymru'n sgorio yn erbyn Unol Daleithiau America: Cwpan y Byd, 2022
Enghraifft o'r canlynoltymor chwaraeon, twrnamaint, cystadleuaeth bêl-droed Edit this on Wikidata
Dyddiad2022 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Daeth i ben18 Rhagfyr 2022 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCwpan y Byd Pêl-droed 2018 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCwpan y Byd Pêl-droed 2026 Edit this on Wikidata
LleoliadStadiwm Eiconig Lusail, Stadiwm Al Bayt, Stadiwm 974, Stadiwm Al Thumama, Stadiwm Dinas Addysg, Stadiwm Ahmad bin Ali, Stadiwm Rhyngwladol Khalifa, Stadiwm Al Janoub Edit this on Wikidata
Enw brodorolكأس العالم لكرة القدم 2022
Kaʾs al-ʿālam li-kurat al-qadam 2022
Qatar 2022
2022 قطر
GwladwriaethCatar Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cwpan y Byd FIFA 2022 (Arabeg: 2022 كأس العالم لكرة القدم‎) oedd yr 22ain gystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA, y bencampwriaeth pêl-droed dynion rhyngwladol a gynhelir bob pedair blynedd rhwng timau cenedlaethol sydd â chymdeithasau sy'n aelodau o FIFA. Er gwaethaf rhwystrau COVID-19, cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Gatar rhwng 20 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022. Hon oedd y gystadleuaeth Cwpan y Byd gyntaf erioed i gael ei chynnal yn y byd Arabaidd,[1] a hon oedd yr ail gystadleuaeth Gwpan y Byd i gael ei chynnal yn gyfan gwbl yn Asia ar ôl cynnal cystadeuaeth 2002 yn Ne Corea a Siapan.[a] Y pencampwyr byd cyn y gystadleuaeth hon (yn dilyn Cwpan y Byd Pêl-droed 2018) oedd Ffrainc.[2]

Logo swyddogol Cwpan y Byd Pêl-droed 2022

Hon oedd y gystadleuaeth olaf i gynnwys 32 o dimau, gyda chynnydd i 48 tîm wedi'i drefnu ar gyfer cystadleuaeth 2026 yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada. Ar 12 Ebrill 2018, gofynnodd CONMEBOL i FIFA ehangu Cwpan y Byd 2022 FIFA o 32 i 48 tîm, bedair blynedd cyn Cwpan y Byd 2026 FIFA fel y cynlluniwyd i ddechrau.[3][4] Mynegodd Llywydd FIFA Gianni Infantino barodrwydd i ystyried y cais.[5] Fodd bynnag, gwrthododd cyngres FIFA y cais ychydig cyn dechrau Cwpan y Byd FIFA 2018 . Dywedodd Infantino na fyddai'r corff llywodraethu pêl-droed byd-eang yn trafod y posibilrwydd o gael 48 tîm, ac y byddent yn trafod y mater yn gyntaf gyda'r wlad sy'n ei chynnal.[6] Ym Mawrth 2019, daeth 'astudiaeth posibilrwydd FIFA' i'r casgliad ei bod yn bosibl ehangu'r twrnamaint i 48 tîm, gyda chymorth "un neu fwy" o wledydd cyfagos a "dau i bedwar lleoliad ychwanegol." Byddai FIFA a Qatar wedi archwilio cynigion posib ar y cyd i'w cyflwyno i Gyngor FIFA a Chyngres FIFA yn ddiweddarach ym mis Mehefin a phe bai cynnig ar y cyd wedi'i gyflwyno, byddai aelod-gymdeithasau FIFA wedi pleidleisio ar y penderfyniad terfynol yn 69ain Cyngres FIFA ym Mharis, erbyn 5 Mehefin.[7][8] Fodd bynnag, ar 22 Mai, cyhoeddodd FIFA na fyddai’n ehangu’r twrnamaint.[9]

Oherwydd y gwres llethol yn Qatar yn yr haf, cynhaliwyd y gystadleuaeth Cwpan y Byd hon rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, gan ei gwneud y gystadleuaeth gyntaf i beidio â chael ei chynnal ym mis Mai, Mehefin, neu Orffennaf; hefyd cynhaliwyd y gystadleuaeth mewn amserlen lai o 28 diwrnod.[10]

Gwnaed cyhuddiadau yn erbyn y modd yr enillodd Qatar yr hawl i gynnal y gystadleuaeth, ond cliriwyd Qatar gan adroddiad mewnol FIFA. Fodd bynnag, disgrifiodd y prif ymchwilydd, Michael J. Garcia, adroddiad FIFA ar ei waith ymchwil, fel un sy'n cynnwys "nifer o sylwadau sy'n anghyflawn ac yn sylweddol wallus." [11] Ar 27 Mai 2015, agorodd erlynwyr ffederal y Swistir ymchwiliad i gamweinyddu ariannol yn ymwneud â chynigion Cwpan y Byd 2018 a 2022.[12][13] Ar 6 Awst 2018, honnodd cyn-lywydd FIFA, Sepp Blatter, fod Qatar wedi defnyddio “black ops”, gan awgrymu bod y pwyllgor a wnaeth y cais gwreiddiol i gynnal y gystadleuaeth wedi twyllo i ennill yr hawliau i'w chynnal.[14] Yn ogystal, wynebodd Qatar feirniadaeth gref oherwydd y modd y cafodd gweithwyr o dramor (a fu'n ymwneud â'r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth) eu trin, gydag Amnest Rhyngwladol yn cyfeirio at "lafur gorfodol" ac yn nodi bod cannoedd (os nad miloedd) o weithwyr mudol wedi marw o ganlyniad i gamdrin hawliau dynol, ac amodau gwaith peryglus ac annynol, a hynny er i safonau lles gweithwyr gael eu drafftio gan lywodraeth Qatar yn 2014.[15]

Rhwng 2015 a 2021, mabwysiadodd llywodraeth Qatar ddiwygiadau llafur newydd[16] i wella amodau gwaith, gan gynnwys isafswm cyflog ar gyfer yr holl weithwyr [17] a chael gwared ar y system cafala (Saesneg: kafala system; Arabeg: نظام الكفالة‎). Cyfeiriodd Amnest Rhyngwladol at y mesurau hyn fel "cam sylweddol tuag at amddiffyn gweithwyr mudol".[18]

Bu honiadau o lwgrwobrwyo yn ymwneud â'r broses o ddethol aelodau i pwyllgor gweithredol FIFA. Yn Nhachwedd 2021 roedd FIFA'n ymchwilio i'r honiadau hyn.

Qatar yw'r genedl leiaf erioed i gynnal cystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA a'r wlad ail leiaf yn ôl arwynebedd wedi'r Swistir, a gynhaliodd Cwpan y Byd FIFA 1954. Mae arwynebedd y Swistir deirgwaith yn fwy na Qatar ac 16 tîm oedd yn cystadlu yng Ngwpan y Byd 1954, ond roedd 32 o dimau yn cystadlu yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Rowndiau rhagbrofol[golygu | golygu cod]

Mae chwe chydffederasiwn cyfandirol FIFA yn trefnu eu cystadlaethau rhagbrofol eu hunain. Mae holl aelod-gymdeithasau FIFA, ac mae 211 ohonynt ar hyn o bryd, yn gymwys i gael eu cynnwys. Enillodd Qatar eu lle i gystadleu, fel gwesteion, yn awtomatig ar gyfer y twrnamaint. Fodd bynnag, gorfododd yr AFC Qatar i gymryd rhan yn y rowndiau rhagbrofol Asiaidd, gan fod y ddwy rownd gyntaf hefyd yn rowndiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan Asiaidd AFC 2023.[19] Aeth y pencampwyr presennol, sef Ffrainc, hefyd trwy'r rowndiau rhagbrofol.[20] Roedd ynysoedd Saint Lucia yn bwriadu cystadlu yn y gystadleuaeth i ddechrau ond tynnodd yr ynysoedd yn ôl cyn eu gêm gyntaf. Tynnodd Gogledd Corea yn ôl hefyd o'r rowndiau rhagbrofol oherwydd pryderon diogelwch yn ymwneud â phandemig COVID-19.

Trafodwyd dyraniad slotiau ar gyfer pob cydffederasiwn gan Bwyllgor Gweithredol FIFA ar 30 Mai 2015 yn Zürich ar ôl Cyngres FIFA.[21] Penderfynodd y pwyllgor y byddai'r dyraniadau a roddwyd yn 2006, yn parhau ar gyfer twrnamaint 2022, sef:[22]

  • CAF (Affrica): 5
  • AFC (Asia): 4.5 (heb gynnwys y wlad sy'n cynnal)
  • UEFA (Ewrop): 13
  • CONCACAF (Gogledd a Chanol America a Charibî): 3.5
  • OFC (Oceania): 0.5
  • CONMEBOL (De America): 4.5

Chwaraewyd y gemau rhagbrofol cyntaf ym Mehefin 2019 yn y twrnamaint rhagbrofol Asiaidd, gyda Mongolia yn trechu Brunei 2–0 ar 6 Mehefin, lle sgoriodd chwaraewr Mongolia, Norjmoogiin Tsedenbal y gôl gyntaf.[23]

Timau a fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA 2022[golygu | golygu cod]

Gwledydd a fydd yn cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA 2022:      Tîm wedi cyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022      TIm heb gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022      Tîm wedi tynnu'n ôl neu wedi'i wahardd      Nid ydynt yn aelod o FIFA
Tîm Llwybr i'r
gystadleuaeth
Pryd Cystadlu
o'r blaen
Cystadlu
ddiwethaf
Perfformiad gorau

yn y gystadleuaeth

 Qatar Gwesteion 2 Rhagfyr 2010 1
 Yr Almaen Enillwyr Grŵp J UEFA 11 Hydref 2021 20[b] 2018 Pencampwyr (1954, 1974, 1990, 2014)
 Denmarc Enillwyr Grŵp F UEFA 12 Hydref 2021 6 2018 Rownd yr wyth olaf (1998)
 Brasil Enillwyr CONMEBOL 11 Tachwedd 2021 22 2018 Pencampwyr (1958, 1962, 1970, 1994, 2002)
 Ffrainc Enillwyr Grŵp D UEFA 13 Tachwedd 2021 16 2018 Pencampwyr (1998, 2018)
 Gwlad Belg Enillwyr Grŵp E UEFA 13 Tachwedd 2021 14 2018 Trydydd safle (2018)
 Serbia Enillwyr Grŵp A UEFA 14 Tachwedd 2021 13[c] 2018 Pedwerydd safle (1930, 1962)
 Sbaen Enillwyr Grŵp B UEFA 14 Tachwedd 2021 16 2018 Pencampwyr (2010)
 Croasia Enillwyr Grŵp H UEFA 14 Tachwedd 2021 6 2018 Ail safle (2018)
 Y Swistir Enillwyr Grŵp C UEFA 15 Tachwedd 2021 12 2018 Rownd yr wyth olaf (1934, 1938, 1954)
 Lloegr Enillwyr Grŵp I UEFA 15 Tachwedd 2021 16 2018 Pencampwyr (1966)
 Yr Iseldiroedd Enillwyr Grŵp G UEFA 16 Tachwedd 2021 11 2014 Ail safle (1974, 1978, 2010)
 Yr Ariannin Ail safle CONMEBOL 16 Tachwedd 2021 18 2018 Pencampwyr (1978, 1986)
 Iran Enillwyr Trydedd rownd AFC Grŵp A 27 Ionawr 2022 6 2018 Rownd grwpiau (1978, 1998, 2006, 2014, 2018)
 De Corea Ail safle trydedd rownd Grŵp A AFC 1 Chwefror 2022 11 2018 Pedwerydd safle (2002)
 Sawdi Arabia Enillwyr trydedd rownd Grŵp B AFC 24 Mawrth 2022 6 2018 Rownd yr 16 (1994)
 Japan Ail safle trydedd rownd Grŵp B AFC 24 Mawrth 2022 7 2018 Rownd yr 16 (2002, 2010, 2018)
 Wrwgwái Trydydd safle CONMEBOL 24 Mawrth 2022 14 2018 Pencampwyr (1930, 1950)
 Ecwador Pedwerydd safle CONMEBOL 24 Mawrth 2022 4 2014 Rownd yr 16 (2006)
 Canada Enillwyr trydedd rownd CONCACAF 27 Mawrth 2022 2 1986 Rownd grwpiau (1986)
 Ghana Enillwyr trydedd rownd CAF 29 Mawrth 2022 4 2014 Rownd yr wyth olaf (2010)
 Senegal Enillwyr trydedd rownd CAF 29 Mawrth 2022 3 2018 Rownd yr wyth olaf (2002)
 Gwlad Pwyl Enillwyr gêm ail gyfle Llwybr B UEFA 29 Mawrth 2022 9 2018 Trydydd safle (1974, 1982)
 Portiwgal Enillwyr gêm ail gyfle Llwybr C UEFA 29 Mawrth 2022 8 2018 Trydydd safle (1966)
 Tiwnisia Enillwyr trydedd rownd CAF 29 Mawrth 2022 6 2018 Rownd grwpiau (1978, 1998, 2002, 2006, 2018)
 Moroco Enillwyr trydedd rownd CAF 29 Mawrth 2022 6 2018 Rownd yr 16 (1986)
 Camerŵn Enillwyr trydedd rownd CAF 29 Mawrth 2022 8 2014 Rownd yr wyth olaf (1990)
 Unol Daleithiau America Trydydd safle trydedd rownd CONCACAF 30 Mawrth 2022 11 2014 Trydydd safle (1930)
 Mecsico Ail safle trydedd rownd CONCACAF 30 Mawrth 2022 17 2018 Rownd yr wyth olaf (1970, 1986)
 Cymru Enillwyr gêm ail gyfle Llwybr A UEFA 5 Mehefin 2022 2 1958 Rownd yr wyth olaf (1958)
 Awstralia Enillwyr gêm ail gyfle AFC v CONMEBOL 13 Mehefin 2022 6 2018 Rownd yr 16 (2006)
 Costa Rica Enillwyr gêm ail gyfle CONCACAF v OFC 14 Mehefin 2022 6 2018 Rownd yr wyth olaf (2014)
Nodiadau
  1. Pan gynhaliwyd y gystadleuaeth yn Rwsia yn 2018, roedd yn cynnwys dau leoliad Asiaidd, yn ddibynnol ar ba ddiffiniad o ffiniau rhwng Asia ac Ewrop, a ddefnyddir.
  2. Cystadlodd yr Almaen rhwng 1950 a 1990 fel Gorllewin yr Almaen gan fod tîm Dwyrain yr Almaen yn bodoli bryd hynny'n ogystal.
  3. Rhwng 1930 a 1998, bu Serbia yn cystadlu fel Iwgoslafia, ac yn 2006 fel Serbia a Montenegro.

Lleoliad y gemau[golygu | golygu cod]

Yn Ebrill 2017, nid oedd FIFA wedi cwblhau rhestr o ba stadiymau fyddai'n barod ymhen pum mlynedd, dywedodd Goruchaf Bwyllgor Cyflenwi ac Etifeddiaeth Qatar ei fod yn disgwyl y byddai wyth yn Doha neu'n agos ato (ac eithrio Al Khor) [24][25]

Yn mis Ionawr 2019, dywedodd Infantino fod FIFA yn archwilio’r posibilrwydd o gael gwledydd cyfagos i gynnal rhai gemau yn ystod y twrnamaint, er mwyn lleihau tensiynau gwleidyddol.[26]

Y stadiwm a gaiff ei ddefnyddio fwyaf fydd Stadiwm Eiconig Lusail, bydd 10 o gemau yn cael eu cynnal yn y stadiwm, gan gynnwys y gêm derfynol. Bydd 9 o gemau yn cael eu cynnal yn Stadiwm Al Bayt yn Al Khor. Cynlhelir pob gêm ar wahân i'r 9 yn Al Khor o fewn radiws o 20 milltir (32km) i ganol Doha. Am y tro cyntaf erioed bydd pob stadiwm yn cael eu defnyddio ar gyfer gemau'r rowndiau sy'n dilyn rownd gyntaf y grwpiau.

Enwyd Stadium 974,a arferai gael ei alw'n Ras Abu Aboud, ar ôl nifer y cynwysyddion llongau a ddefnyddiwyd i adeiladu'r stadiwm a bydd y stadiwm yn cynnal saith o gemau yn ystod y gystadleuaeth.[27]

Lusail Al Khor Doha
Stadiwm Eiconig Lusail Stadiwm Al Bayt Stadiwm 974 Stadiwm Al Thumama
Eisteddleoedd: 80,000
Eisteddleoedd: 60,000[28] Eisteddleoedd: 40,000[29] Eisteddleoedd: 40,000[30]
Al Rayyan Al Wakrah
Khalifa International Stadium Stadiwm Dinas Addysg Stadiwm Ahmad bin Ali Al Janoub Stadium
Eisteddleoedd: 45,416[31] Yn dal: 45,350[32] Eisteddleoedd: 44,740[33]
Eisteddleoedd: 40,000[34]

Tîm Cymru[golygu | golygu cod]

Ar 5 Mehefin 2022, cymhwysodd Cymru i Gwpan y Byd Pêl-droed, am y tro cyntaf ers 1958.[35] Bydd rhai swyddogion o Gymru, gan gynnwys y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ymweld â Qatar ym mis Ionawr gan fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau "helpu i wneud y byd yn lle gwell", yn ôl eu prif weithredwr.[36] Chwaraeodd tîm Cymru eu gêm gyntaf ar 21 Tachwedd, yn erbyn y tîm o'r Unol Daleithiau America.[37]

Rowndiau Terfynol[golygu | golygu cod]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Amir: 2022 World Cup Qatar a tournament for all Arabs". Gulf Times. 15 Gorffennaf 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2018. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  2. Taylor, Daniel (15 Gorffennaf 2018). "France seal second World Cup triumph with 4–2 win over brave Croatia". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2019. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  3. "Why Fifa's 48-team plan for the 2022 World Cup is bad news for Qatar". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2018. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  4. Goff, Steven. "FIFA is considering a bigger World Cup in Qatar, one of the planet's smallest countries". Chicago Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2018. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  5. "FIFA President Gianni Infantino open to CONMEBOL's request to expand Qatar World Cup". ESPN. 13 April 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 April 2018. Cyrchwyd 13 April 2018.
  6. "FIFA President Gianni Infantino". Reuters. 10 Mehefin 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mehefin 2018. Cyrchwyd 23 Mehefin 2018.
  7. "FIFA Council decides on key steps for upcoming international tournaments". FIFA.com. 15 Mawrth 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2019. Cyrchwyd 15 Mawrth 2019.
  8. Harris, Rob (11 Mawrth 2019). "APNewsBreak: FIFA study backs 48-team '22 WC, Qatar sharing". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mawrth 2019. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
  9. "FIFA keeps 2022 World Cup at 32 teams". SI.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2019. Cyrchwyd 22 Mai 2019.
  10. "FIFA Executive Committee confirms November/December event period for Qatar 2022". FIFA. 19 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2018. Cyrchwyd 5 December 2017.
  11. "Fifa report 'erroneous', says lawyer who investigated corruption claims". BBC Sport. 13 Tachwedd 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Chwefror 2015. Cyrchwyd 24 Chwefror 2015.
  12. "Criminal investigation into 2018 and 2022 World Cup awards opened". ESPN FC. ESPN. 27 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2015. Cyrchwyd 27 Mai 2015.
  13. "The Office of the Attorney General of Switzerland seizes documents at FIFA". The Federal Council. The Swiss Government. 27 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2021. Cyrchwyd 27 Mai 2015.
  14. "Sepp Blatter says Qatar cheated to host World Cup". 5 Awst 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2018. Cyrchwyd 7 Awst 2018.
  15. "Amnesty says workers at Qatar World Cup stadium suffer abuse". 31 Mawrth 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2016. Cyrchwyd 31 Mawrth 2016.
  16. "Labour Reform". Government Communications Office. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2021.
  17. Pete Pattisson (1 Medi 2020). "New Labour Law Ends Qatar's Exploitative Kafala System". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2021.
  18. "Qatar reforms strike at heart of abusive kafala system". www.amnesty.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2021.
  19. Palmer, Dan (31 Gorffennaf 2017). "Hosts Qatar to compete in qualifying for 2022 World Cup". insidethegames.biz. Dunsar Media Company. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mehefin 2019. Cyrchwyd 15 Awst 2017.
  20. "2022 World Cup odds: France favorite to repeat in Qatar; USA behind Mexico with 16th-best odds". CBS Sports. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 April 2019. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  21. "2022 FIFA World Cup to be played in November/December". FIFA. 20 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 5 December 2017.
  22. "Current allocation of FIFA World Cup confederation slots maintained". FIFA. 30 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2015. Cyrchwyd 5 December 2017.
  23. "Mongolia win first World Cup 2022 qualifier". AOL.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mehefin 2019. Cyrchwyd 11 Mehefin 2019.
  24. "Official: Qatar has cut its 2022 World Cup budget almost in half". Doha News. 7 April 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 December 2019. Cyrchwyd 16 April 2017.
  25. "Stadiums". Supreme Committee for Delivery & Legacy. 6 Gorffennaf 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 8 Ionawr 2018.
  26. "Infantino: Qatar neighbours could help host World Cup". ESPN. 2 Ionawr 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2019. Cyrchwyd 2 Ionawr 2019.
  27. Qatar touts dismountable stadium for 'sustainable' 2022 World Cup, Deutsche Welle, 25 November 2021, https://www.dw.com/en/qatar-touts-dismountable-stadium-for-sustainable-2022-world-cup/a-59921732, adalwyd 30 November 2021
  28. "Al Bayt Stadium: A uniquely Qatari stadium, to rival the best in the world". 8 January 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 September 2019. Cyrchwyd 8 January 2018.
  29. "Qatar Foundation Stadium: An amazing experience for fans & a bright future for football". 8 January 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 January 2018. Cyrchwyd 8 January 2018.
  30. "Al Thuymama Stadium: A tribute to our region". 8 January 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2019. Cyrchwyd 8 January 2018.
  31. "Khalifa International Stadium: Qatar's most historic stadium & a crucial player for 2022". 8 January 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 December 2019. Cyrchwyd 8 January 2018.
  32. "Ras Abu Aboud Stadium: A legacy for the community". 8 January 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2019. Cyrchwyd 8 January 2018.
  33. "Al Rayyan Stadium: The gateway to the desert opens its doors to the world". 8 January 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 July 2019. Cyrchwyd 8 January 2018.
  34. "Tradition and innovation come together as striking Al Janoub Stadium in Al Wakrah City is opened". 16 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
  35. "Creu wrth i Gymru gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar". Golwg360. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2022.
  36. "Cwpan y Byd 2022: Rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn Doha". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2022.
  37. "Camu o'r anialwch pêl-droed rhyngwladol ar ôl 64 mlynedd". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2022.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: