Amser Safonol Greenwich
![]() | |
Enghraifft o: | safon amser, cylchfa amser ![]() |
---|---|
Rhagflaenydd | UTC−00:25:21 ![]() |
Olynydd | universal time ![]() |
Gwefan | https://greenwichmeantime.com/ ![]() |
Yr amser cymedrig lleol yn Arsyllfa Frenhinol Greenwich, Llundain, yw Amser Safonol Greenwich (Saesneg: Greenwich Mean Time; GMT). Mae'n sail ar gyfer amser sifil yn y Deyrnas Unedig yn ogystal ag amryw gyrff megis y BBC World Service, y Llynges Frenhinol a'r Swyddfa Dywydd. Hyd at y 1960au roedd GMT hefyd yn safon ryngwladol ar gyfer cadw amser, ond ers y 1960au mae safon UTC wedi cael ei defnyddio fwyfwy dramor a chan gyrff rhyngwladol. I bob pwrpas ymarferol mae UTC+00:00 yr un peth â GMT.
Hanes
[golygu | golygu cod]Wrth i'r Deyrnas Unedig ddatblygu i fod yn wlad fordwyol bwysig yn y 19g, roedd morwyr Prydeinig yn cadw cronomedr morol wedi'i gosod i GMT i gyfrifo hydred eu llongau o Meridian Greenwich, sydd â hydred 0°, yn ôl confensiwn a fabwysiadwyd mewn cynhadledd ryngwladol yn 1884. Arweiniodd yr arfer hwn at ddefnyddio GMT ledled y byd fel amser safonol. Roedd y rhan fwyaf o gylchfaoedd amser yn seiliedig ar GMT, gan adio neu dynnu nifer penodol o oriau (ac weithiau hanner neu chwarter awr yn ychwanegol) "cyn GMT" neu "y tu ôl i GMT". (Fodd bynnag, fel y nodwyd uchod, mae'r confensiwn hwn wedi'i newid i raddau helaeth o blaid y safon UTC.)
Hyd at ganol y 19g, roedd bron pob tref ym Mhrydain yn cadw ei hamser lleol ei hun, yn ôl yr Haul. Fodd bynnag, wrth i'r rheilffyrdd ymestyn yn gyflym roedd angen dybryd am safon amser genedlaethol. Dechreuodd cwmnïau rheilffordd gyflwyno un amser safonol ar draws eu rhwydweithiau, gyda'r nod o wneud eu hamserlenni'n llai dryslyd. GMT oedd yr hyn a ddefnyddiwyd ganddynt yn bennaf, a fabwysiadwyd yn y pen draw ar draws ynys Prydain gan y Railway Clearing House yn 1847. Fe'i cyfeiriwyd ato fel Railway Time ("Amser Rheilffordd"). Erbyn canol y 1850au roedd bron pob cloc cyhoeddus ym Mhrydain wedi'i osod i GMT, a ddaeth o'r diwedd yn amser safonol cyfreithiol gan Ddeddf Seneddol yn 1880.
Ar hyn o bryd GMT yw’r safon genedlaethol yn y Deyrnas Unedig yn ystod misoedd y gaeaf. Mae'r clociau'n cael eu symud ymlaen o awr yn ystod yr haf bob blwyddyn, gan newid y gylchfa amser o UTC+00:00 i UTC+01:00. Dyma Amser Haf Prydain (BST), sy'n cychwyn am 01:00 GMT ar ddydd Sul olaf mis Mawrth ac yn gorffen am 02:00 BST ar ddydd Sul olaf mis Hydref.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "What is Greenwich Mean Time?", Royal Museums Greenwich