Neidio i'r cynnwys

Gwythïen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Gwythien)
Gwythïen
Enghraifft o:dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
MathGwaedlestr, segment of venous tree organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebrhydweli Edit this on Wikidata
Rhan oGwaedlestr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydavenule, calon Edit this on Wikidata
Yn cynnwysvenous valve Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Croesdoriad o wythïen yn dangod un o'r falfau sy'n atal y gwaed rhag rhedeg yn ei ôl.
System gylchredol

Yn system gylchredol y gwaed, gwythïen yw pibell sy'n cario gwaed i'r galon. Mae hyn yn groes i'r rhydwelïau, sy'n cario gwaed o'r galon. Ychydig iawn o ocsigen sydd yn y gwaed sy'n teithio drwyddynt o'r meinweoedd yn ôl i'r galon; mae eithriadau i hyn: mae gwythïen y bogail sy'n teithio drwy linyn y bogail yn enghraifft o wythïen sy'n llawn ocsigen.

Afiechydon

[golygu | golygu cod]

Mae gwythiennau chwyddiedig (neu varicose veins) i'w gweld ar y coesau, fel arfer. Oherwydd y pwysedd mawr ar wythiennau'r coesau pan fo person yn sefyll, gallant chwyddo gan beri i'r falfau beidio â gweithio'n iawn. Mae'r gwaed, yn ei dro, yn casglu yn y rhannau hyn gan chwyddo'r gwythiennau'n fwy byth. Gall gwythiennau chwyddiedig, fod yn boenus iawn a gallant gosi'n aruthrol. Y dull traddodiadol oedd eu tynnu drwy lawdriniaeth meddygol ond bellach ceir belydrau radio neu driniaeth laser.

Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.