Panda Mawr
Panda Mawr | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Ursidae |
Genws: | Ailuropoda |
Rhywogaeth: | A. melanoleuca |
Enw deuenwol | |
Ailuropoda melanoleuca David, 1869 |
Mamal mawr arthaidd du a gwyn, llysysol yn bennaf, sydd wedi arbenigo ar fwyta bambŵ ac ar fyw ym mynyddoedd Asia yw'r panda mawr (Lladin: Ailuropoda melanoleuca). Ceir dau is-rywogaeth, Ailuropoda melanoleuca melanoleuca ac Ailuropoda melanoleuca qinlingensis.
Daw'r enw panda o ail elfen y Nepaleg nigálya-pónya ‘bwytwr bambŵ’. Yr enw Tsineëg yw dàxióngmāo (大熊猫). Fe'i ceir yn y coedwigoedd bambŵ ar lethrau uchel mynyddoedd rhan orllewinol Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn arbennig yn nhalaethiau Sichuan a Yunnan. Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, yn amrywio o 80 kg hyd 100 kg.
Er eu bod yn perthyn i'r Carnovora, maent yn fwytawyr planhigion, yn bennaf bambŵ. Nid ydynt yn medru treulio'r bambŵ yn effeithiol iawn, felly rhaid iddynt fwyta rhwng 9 a 14 kg y dydd, sy'n golygu eu bod yn treulio 10 - 12 awr y dydd yn bwyta.
Daeth y Panda Mawr yn symbol o rywogaethau mewn perygl. Y prif berygl i'r rhywogaeth yw colli'r fforestydd bambŵ y maent yn dibynnu arnynt.
Logo'r WWF
[golygu | golygu cod]Y panda mawr yw logo y mudiad amgylcheddol ac amddiffyn byd natur, y WWF. Dewiswyd y Panda Mawr yn dilyn ymddangosiad y panda Chi-Chi yn Sŵ Llundain gan godi cwestiynau am natur cadwraeth a chynefin naturiol anifeiliaid gwylltion. Roedd lliw du a gwyn y panda hefyd yn gweithio'n dda mewn oes pan oedd y wasg brint fel arfer dim ond mewn du a gwyn.