Alan Turing
Alan Turing | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Alan Mathison Turing ![]() 23 Mehefin 1912 ![]() Maida Vale, Warrington Lodge ![]() |
Bu farw | 7 Mehefin 1954 ![]() o gwenwyno gan syanid ![]() Wilmslow ![]() |
Man preswyl | Maida Vale, Guildford ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | gwyddonydd cyfrifiadurol, mathemategydd, academydd, cryptograffwr, rhesymegwr, ystadegydd, rhedwr marathon, ymchwilydd deallusrwydd artiffisial ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | On Computable Numbers, with an Application to the Entscheidungsproblem, Computing Machinery and Intelligence, Intelligent Machinery, halting problem, Turing machine, Prawf Turing, Turing completeness, Church–Turing thesis, universal Turing machine, Symmetric Turing machine, non-deterministic Turing machine, Bombe, probabilistic Turing machine, Turing degree, Q133854517 ![]() |
Prif ddylanwad | Max Newman ![]() |
Tad | Julius Mathison Turing ![]() |
Mam | Ethel Sara Stoney ![]() |
Partner | Christopher Morcom ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, OBE, Smith's Prize ![]() |
Gwefan | http://www.turingarchive.org/ ![]() |
Chwaraeon | |
llofnod | |
![]() |
Mathemategydd, a rhesymegydd o Loegr oedd Alan Mathison Turing, OBE (23 Mehefin 1912 - 7 Mehefin 1954).
Fe ddatblygodd gysyniad o'r enw peiriant Turing, sy'n ffurfioli'r hyn mae cyfrifiaduron yn gallu gwneud. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gweithio ym Mharc Bletchley, y ganolfan brydeinig ar gyfer torri'r codau a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfathrebu milwrol. Dyfeisiodd sawl techneg o dorri codau Almaenig, gan gynnwys peiriant o'r enw y bombe a oedd yn canfod dewisiadau peiriant Enigma.
Ar ôl y rhyfel, bu'n gweithio yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol, ac yna ym Mhrifysgol Manceinion lle'r oedd yn gweithio ar feddalwedd ar gyfer Marc I Manceinion, un o'r gwir-gyfrifiaduron cyntaf yn y byd.
Ym 1952, fe'i gafwyd yn euog o "weithredoedd anweddus dygn" wedi iddo gyfaddef cael perthynas rhywiol gyda dyn ym Manceinion. Fe'i rhoddwyd ar brofiannaeth prawf a gorfodwyd i dderbyn triniaeth hormonaidd. Ar 11 Medi 2009 darparodd y Prif Weinidog Gordon Brown ymddiheuriad swyddogol 55 o flynyddoedd ar ôl marwolaeth Turing, am y modd "gwarthus" y cafodd ei drin. Dywedodd Brown ei fod yn "hynod flin" am y driniaeth a gafodd Turing, wedi iddo dderbyn deiseb o dros 30,000 o enwau yn gofyn am ymddiheuriad.[1]
Bu farw ar ôl bwyta afal gyda cyanid ynddo. Tybia lawer mai hunanladdiad ydoedd.
Portreadau mewn diwylliant fodern
[golygu | golygu cod]Seiliwyd y ffilm "The Imitation Game" a ryddhawyd yn 2014 ar fywyd Turing, gyda'r actor Benedict Cumberbatch yn chwarae'r prif gymeriad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.dailymail.co.uk/news/article-1212703/Gordon-Brown-apologises-gay-WW2-code-breaker-Alan-Turing-appalling-persecution.html. Daily Mail. 11-09-2009. Adalawyd 11-09-2009.