Neidio i'r cynnwys

Coler rhydd

Oddi ar Wicipedia
Coler rhydd
Mathcoler crys Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dau arddull o goler rhydd
Pâr o stydiau i gysylltu'r coler wrth y crys. Mae'r un colfachog ar y dde yn mynd yn y cefn; mae'r un hir ar y chwith yn mynd yn y blaen.

Coler crys y gellir ei datgysylltu oddi wrth brif ran y dilledyn yw coler rhydd. Mae'r coler wedi'i glymu i'r crys gan bâr o stydiau sydd wedi'u cynllunio at y diben. Fel arfer mae'r coler wedi'i gwneud o ffabrig gwahanol i'r crys, ac mae bron bob amser yn wyn. Gan ei fod ar wahân i'r crys, gellir ei startsio i gyflawni gorffeniad caled, caboledig, tebyg i gardbord. Weithiau byddai'r cyffiau a blaen y crys yn cael eu gwneud fel eitemau datodadwy hefyd er mwyn rhoi'r un driniaeth iddynt.

Honnir bod y coler rhydd wedi'i ddyfeisio yn 1827 gan yr Americanes Hannah Montague, o dref Troy, Efrog Newydd[1] , a oedd am osgoi golchi crysau ei gŵr pan oedd dim ond y coleri yn fudr. Defnyddiwyd y math hwn o goler yn helaeth rhwng dechrau ail hanner y 19g a dechrau'r 20g cyn iddo ddod i ben yn raddol. Erbyn hyn dim ond ar yr achlysuron mwyaf ffurfiol y cânt eu defnyddio, yn enwedig fel rhan o wisg hwyrnos.

Er mwyn startsio coler, caiff ei streulio mewn dŵr berwedig i gael gwared ar unrhyw hen startsh, yna ei olchi fel arfer. Wedyn caiff ei drwytho mewn toddiant crynodedig o startsh, a'i adael nes ei fod bron yn sych. Yna caiff ei smwddio nes ei fod yn galed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]