Neidio i'r cynnwys

Cymunedoli

Oddi ar Wicipedia
Gwesty'r Pengwern yn Llan Ffestiniog. Ail agorwyd y dafarn yn 2011 o dan berchnogaeth gymunedol

Mae Cymunedoli yn derm am syniad o ddatblygu economaidd ble mae aelodau cymuned leol yn dod at ei gilydd i greu mentrau busnes fel ffordd o wella'r economi er budd y gymuned yna.

Y nod yw bydd pobl yr ardal yn buddsoddi eu hamser ac arian yn y mentrau fel bod perchnogaeth a rheolaeth gymunedol ar asedion lleol a bod yr incwm sy’n cael ei greu yn cael ei gadw’n lleol er budd y gymuned.

Mae’r term yn cael ei gysylltu’n arbennig gyda mentrau sefydlwyd yng Ngwynedd o tua 2006 ymlaen fel ymateb i broblemau economaidd ardaloedd fel Ffestiniog. Sefydlwyd nifer o fentrau lleol ac wedyn Cwmni Bro Ffestiniog yn 2008, rhwydwaith o 16 menter gymdeithasol yr ardal. Yna yn 2023 sefydlwyd Cymunedoli Cyf. rhwydwaith o 36 o fentrau cymunedol ar draws sir Gwynedd. [1]

Cymunedoli Cyf

[golygu | golygu cod]

Mae Cymunedoli Cyf yn fudiad sydd yn cyd-gysylltu mentrau cymdeithasol sydd yn hyrwyddo mentergarwch cymunedol. Yn 2025 datganodd Cymunedoli Cyf bod gan ei aelodau cyfanswm trosiant o £13.56m, gyda 239 cyflogai amser llawn, 215 cyflogai rhan amser a 536 o wirfoddolwyr rhwng y wahanol fentrau.[2][3][4]

Grŵp o ogledd Cymru yn ymweld â menter cydweithredol Somonte yn Andalucia
Grŵp o ogledd Cymru yn ymweld â menter cydweithredol Somonte yn Andalucia yn 2014

Dywedodd un o gefnogwyr Cymunedoli am fentrau cymunedol ardal Ffestiniog:

'bod yr incwm, i raddau helaeth, yn aros a chylchdroi a lluosogi o fewn yr ardal. Am bob punt sy’n cael ei derbyn fel grantiau neu fenthyciadau, mae 98 ceiniog yn cael ei wario’n lleol "... "Mae hyn yn groes i’r sefyllfa yn achos corfforaethau a chwmnïau mawr preifat sy’n derbyn y rhan fwyaf o’r incwm ac mae arian yn llifo allan o’r cymunedau sy’n rhedeg y cyfleusterau ac adnoddau ar gyfer twristiaid". [5]

Cafwyd ysbrydoliaeth i greu mentrau o’r fath gan lwyddiant Mentrau cydweithredol Mondragon yng Ngwlad y Basg a Marinaleda a Somonte yn Andalucia. Cafwyd ysbrydoliaeth hefyd gan hanes y mudiad Cydweithredol yng Nghymru yn y gorffennol.

Yn ôl ymchwil gyhoeddwyd gan Sefydliad Worldwatch mae tua biliwn o bobl mewn 96 o wledydd yn 2012 wedi dod yn aelodau o o leiaf un cwmni cydweithredol. Cyrhaeddodd trosiant y tri chant o gwmnïau cydweithredol mwyaf yn y byd $2.2 triliwn. [6]

Hanes y mudiad Cydweithredol yng Nghymru

[golygu | golygu cod]
Robert Owen yn 1845

Mae busnes cydweithredol yn fusnes ble mae'r gweithwyr yn berchenogion ar y cwmni ac yn cael pleidleisio ar sut mae rheoli yn hytrach na chyfranddalwyr. Bu nifer fawr o fentrau cydweithredol trwy dde Cymru yn ystod hanner cyntaf yr 20g.

Gellir olrhain gwreiddiau’r mudiad cydweithredol yn ôl i 1815 pan gyhoeddodd Robert Owen o’r Drenewydd ei Observations on the Effects of the Manufacturing System. Aeth ymlaen i arloesi busnesau oedd yn ceisio bod yn llawer tecach i'w gweithwyr na rhai eraill y cyfnod.

Dechreuwyd y Gymdeithas Gydweithredol gyntaf a gofnodwyd gan 28 o weithwyr melin gotwm yn Rochdale, Swydd Gaerhirfryn, ym 1841. Sefydlwyd y cymdeithasau cydweithredol cyntaf yng Nghymru yn fuan wedyn, gan gynnwys un a ddechreuwyd gan Siartwyr ym Mhontypridd. Sefydlwyd y fenter gydweithredol gyntaf a barhaodd yng Nghwmbach, ym 1859/60, a fodelwyd ar y fenter gydweithredol arloesi, yn Rochdale. Mae menter gydweithredol Cwmbach wedi’i gweld fel ‘dechrau’ cydweithredu yng Nghymru.[7]

Mae enwau cymdeithasau cynnar yn dweud llawer, megis The Tonyrefail Pioneer, 1864, a Chymdeithas Ddyfalbarhad Brynmawr, a sefydlwyd ym 1865, ar ôl methiant menter gynharach. O ystyried y niferoedd mawr o gymdeithasau a fethodd, yn enwedig rhwng 1860 a 1900, parhaodd pobl i fuddsoddi ynddynt, gan beryglu eu cynilion, a dangos eu hymrwymiad i wneud i gydweithredu gweithio. Yng ngogledd Cymru, roedd Cymdeithas Brymbo yn weithredol yn 1872 ond, fel yng ngweddill Cymru, araf oedd y cydweithio i ddatblygu o gymharu â Lloegr.

Roedd cryfder y mudiad yn Ne Cymru mewn pentrefi bach yn y cymoedd fel Troedyrhiw a Tredegar Newydd, oedd yn adlewyrchu'r ffordd y datblygodd y diwydiant glo. Yng Ngogledd Cymru, tyfodd nhw mewn cymunedau glo a llechi fel Coed-llai a Llanberis. Yn y canolbarth, datblygon nhw mewn trefi fel y Drenewydd, a'r Trallwng. Ni ddatblygodd trefi arfordirol Caerdydd a Chasnewydd gymdeithasau cydweithredol cryf i ddechrau oherwydd bod gan y docwyr a’r morwyr waith afreolaidd, a oedd yn rhwystro trefniadaeth gydweithredol. [8]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://socialcare.wales/cms-assets/documents/hub-downloads/What_are_user-led_co-operatives.pdf
  2. https://cymunedoli.cymru/amdanom-ni/
  3. https://www.iaith.cymru/uploads/general-uploads/CYMUNEDOLI_Galeri.pdf
  4. https://golwg.360.cymru/noddwyd/2024/fforwm-genedlaethol-cymunedoli-dechrau-ddyfodol
  5. "Cymunedoli". Golwg360. 2023-01-25. Cyrchwyd 2025-03-13.
  6. "The World Co-operative Monitor". monitor.coop. Archived from the original on 22 October 2017. Retrieved 20 June 2015..
  7. https://cynonvalleymuseum.wales/2021/01/20/the-history-of-the-aberdare-and-district-co-operative-society-part-1/
  8. https://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/themes/society/industry-cooperative-movement.shtml