Neidio i'r cynnwys

Dynfarch

Oddi ar Wicipedia
Dynfarch
Enghraifft o:tacson ffuglennol Edit this on Wikidata
Mathhybrid dynol-anifail mytholegol, cymeriad chwedlonol Groeg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbongorff dynol, ceffyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Creadur o fytholeg Roeg a Rhufeinig a chanddo gorff a choesau ceffyl a phen, breichiau a bongorff (torso) dyn yw dynfarch.[1] Yn ôl y Groegiaid gynt, buont yn byw ym mynyddoedd Thesalia ac Arcadia ac yn epil i Ixion, Brenin y Lapith. Wedi iddynt geisio cipio priodferch Pirithous, mab Ixion, cawsant brwydr â'r Lapith. Yn sgil trechiad y dynfeirch gan y Lapith, cawsant eu gyrru o Fynydd Pelion.[2]

Brithwaith modern o'r Eidal sy'n portreadu dynfarch.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  dynfarch. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.
  2. (Saesneg) Centaur (Greek mythology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Gorffennaf 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato