Neidio i'r cynnwys

Emyr Davies

Oddi ar Wicipedia
Emyr Davies
Ganwyd31 Mai 1878 Edit this on Wikidata
Aber-erch Edit this on Wikidata
Bu farw21 Tachwedd 1950 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon am y bardd, am y cyflwynydd a chynhyrchydd teledu gweler Emyr Davies (cyflwynydd)

Bardd Cymraeg oedd Hugh Emyr Hughes Davies (31 Mai 187821 Tachwedd 1950). Roedd yn frodor o blwyf Llannor, Llŷn (Gwynedd).

Daeth yn brifardd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906 pan enillodd y Goron am ei bryddest 'Branwen ferch Llŷr', cerdd ramantaidd am chwedl Branwen yn y Mabinogi. Enillodd y Goron am yr ail dro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908 am y gerdd 'Owain Glyn Dŵr'.

Telynegol a rhamantaidd yw ei gerddi ar y cyfan. Yn nodweddiadol o'r cyfnod, mae llawer ohonynt yn ymwneud â hanes a chwedlau Cymru.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Llwyn Hudol (1907).
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.