Neidio i'r cynnwys

Gorbryder

Oddi ar Wicipedia
Anxiety, portread gan Edvard Munch (1894)
Cerflun o'r Ymerawdwr Rhufeinig Gaius Messius Quintus Traianus Decius o Amgueddfa Capitoline; mae ei wyneb yn dangos y gorbryder o gario baich y wlad ar ei ysgwyddau.

Mae gorbryder (Saesneg: anxiety) yn gyflwr o densiwn mewnol yn y corff, sy'n aml yn cynnwys ymarweddiad nerfus gan y person, megis cerdded yn ôl ag ymlaen, afiechydon somatig, cnoi ewinedd, cen gwallt neu'n meddwl am rywbeth drosodd a throsodd.[1] Dyma'r teimlad o ofnadwyaeth fod rhywbeth erchyll fel marwolaeth ar ddigwydd.[2]

Mae gorbryder yn wahanol i ofn, sydd wedi'i seilio ar rywbeth real neu beryglus. Ond mae'n seiliedig ar adwaith go iawn i fygythiad gwirioneddol.[3] Mae gorbryder, felly yn cynnwys elfen o ofn, poeni ac ansicrwydd. Fel arfer mae'r rhain yn crynhoi mewn modd di-ffocws, cyffredinol i ryw sefyllfa arbennig a bygythiol.[4] Ymhlith yr affeithiadau a gaiff ar y corff mae: blinder corfforol a meddyliol, methu a chanolbwyntio, a thyndra yn y cyhyrau. Nid yw'n cael ei ystyried fel ymarweddiad naturiol a phan fo'n datblygu i'r eithaf, gall greu problemau seicolegol.[5]

Triniaethau

[golygu | golygu cod]

Gall rai pobl wella drwy roi'r gorau i gaffein e.e. drwy beidio ag yfed coffi.[6] Am ychydig, o wneud hyn, mae'r gorbryder yn cynyddu.[7][8][9]

Triniaethau naturiol

[golygu | golygu cod]

Gall hypnotherapi ar y cyd â thriniaethau eraill gynorthwyo i leddfu gorbryder,[10] drwy feddwl mwy positif ac ymlacio'r cyhyrau. Ceir sawl llysieuyn rhinweddol sydd wedi'u defnyddio am ganrifoedd i leddfu'r symptomau hyn e.e. Llysiau'r bara (coriander), Brenhinllys (basil), Kava, rhisgl Magnolia, rhisgl Phellodendron, Hypericum perforatum, a passiflora. Hyd yma, methodd ymchwil gwyddonol a phrofi effeithiolrwydd y llysiau hyn.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Seligman, M.E.P.; Walker, E.F.; Rosenhan, D.L. (2001). Abnormal psychology (arg. 4th). New York: W.W. Norton & Company.
  2. Davison, Gerald C. (2008). Abnormal Psychology. Toronto: Veronica Visentin. t. 154. ISBN 978-0-470-84072-6.
  3. Henig, Robin Marantz (August 20, 2012). "ANXIETY!". The New York Times Magazine.
  4. Bouras, N.; Holt, G. (2007). Psychiatric and Behavioural Disorders in Intellectual and Developmental Disabilities (arg. 2nd). Cambridge University Press.
  5. "Anxiety Disorders". National Institute of Mental Health. Cyrchwyd Medi 3 2008. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. Bruce, M. S.; Lader, M. (2009). "Caffeine abstention in the management of anxiety disorders". Psychological Medicine 19 (1): 211–4. doi:10.1017/S003329170001117X. PMID 2727208. http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=4996824.
  7. Prasad, Chandan (2005). Nutritional Neuroscience. CRC Press. t. 351. ISBN 0-415-31599-9. Cyrchwyd 7 Hydref 2012.
  8. Nehlig, Astrid (2004). Coffee, Tea, Chocolate, and the Brain. CRC Press. t. 136. ISBN 0-415-30691-4. Cyrchwyd 7 Hydref 2012.
  9. Juliano, Laura M.; Griffiths, Roland R. (2004). "A critical review of caffeine withdrawal: Empirical validation of symptoms and signs, incidence, severity, and associated features". Psychopharmacology 176 (1): 1–29. doi:10.1007/s00213-004-2000-x. PMID 15448977. https://archive.org/details/sim_psychopharmacology_2004-10_176_1/page/n8.
  10. Reavley, Nicola; Allen, Nick; Jorm, Anthony; Morgan, Amy; Purcell, Rosemary (2010). A Guide to What Works for Anxiety Disorders (PDF). Melbourne: beyondblue. ISBN 978-0-9807463-1-0. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-03-19. Cyrchwyd 2013-07-29.
  11. Saeed, SA; Bloch, RM; Antonacci, DJ (2007). "Herbal and dietary supplements for treatment of anxiety disorders". American family physician 76 (4): 549–56. PMID 17853630. https://archive.org/details/sim_american-family-physician_2007-08-15_76_4/page/n86.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato