Neidio i'r cynnwys

Jacobitiaeth

Oddi ar Wicipedia
Jacobitiaeth
Enghraifft o:mudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1688 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1807 Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Iwerddon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Charles Edward Stuart, "Bonnie Prince Charlie"

Jacobitiaeth yw'r term a ddefnyddir am y mudiad gwleidyddol oedd yn anelu at ddychwelyd aelodau o deulu brenhinol y Stiwartiaid i orsedd Lloegr a'r Alban (gorsedd Prydain Fawr). Daw'r enw o Jacobus, y ffurf Ladin ar enw James II & VII, brenin Lloegr a'r Alban.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Diorseddwyd James II/VII yn 1688, a bu raid iddo ffoi i'r cyfandir. Yn ei le, daeth ei ferch, Mari II a'i gŵr Wiliam III (Wiliam o Orange) i'r orsedd. Wedi ei marwolaeth hwy, daeth Anne, un arall o ferched James II/VII, yn frenhines. Bu hi farw yn 1714, a daeth Etholwr Hannover yn frenin fel George I. Roedd un arall o blant James II/VII, James Francis Edward Stuart, yn byw ar y cyfandir, ond gan ei fod yn Gatholig, caewyd ef allan o'r olyniaeth. Hawliai ef yr orsedd fel James III/ VIII. Roedd cefnogaeth i deulu'r Stiwartiaid yn parhau yn gryf yn Iwerddon, Ucheldiroedd yr Alban a rhannau o Ogledd Lloegr. Roedd hefyd rywfaint o gefnogaeth i'r mudiad yng Nghymru.

18fed ganrif

[golygu | golygu cod]

Gwnaed ymgais i ddychwelyd y Stiwartiaid i'r orsedd yn 1715, ond methodd yr ymdrech wedi i'r fyddin Jacobitaidd fethu gorchfygu byddin y llywodraeth ym Mrwydr Sheriffmuir; roedd gwrthryfel byrhoedlog yn 1719 yn aflwyddiannus hefyd. Bu ymgyrch arall yn 1745, pan laniodd mab James III/VIII, Charles Edward Stuart, (Bonnie Prince Charlie) yn Ucheldiroedd yr Alban a chodi byddin. Cafodd ei ddilynwyr nifer o lwyddiannau, ond gorchfygwyd hwy ym Mrwydr Culloden.

Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnâi dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".

Ffuglen

[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel Pen yr Yrfa (nofel fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931) gan Morris Thomas yn dilyn hynt a helynt Cymry Jacobinaidd o Wynedd ac yn cynnwys disgrifiad o Frwydr Culloden.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]