Neidio i'r cynnwys

Kieffer Moore

Oddi ar Wicipedia
Kieffer Moore

Moore yn 2014
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1992-08-08) 8 Awst 1992 (32 oed)
Man geniTorquay, England
Taldra6 tr 5 mod (1.96 m)[1]
SafleBlaenwr
Y Clwb
Clwb presennolSheffield United
Rhif9
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2012–2013Truro City22(13)
2013Dorchester Town13(7)
2013–2015Yeovil Town50(7)
2015–2016Viking9(0)
2016–2017Forest Green Rovers33(7)
2016Torquay United (loan)4(5)
2017–2018Ipswich Town11(0)
2017–2018Rotherham United (loan)22(13)
2018–2019Barnsley51(21)
2019–2020Wigan Athletic36(10)
2020–2022Dinas Caerdydd64(25)
2022–2024AFC Bournemouth39(9)
2024Ipswich Town (ar fenthyg)18(7)
2024–Sheffield United27(5)
Tîm Cenedlaethol
2016Tîm Lloegr C1(0)
2019–Cymru49(14)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 8 Mehefin 2025 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 8 Mehefin 2025 (UTC)

Mae Kieffer Roberto Francisco Moore (ganed 8 Awst 1992 yn Torquay, Lloegr) yn bêl-droediwr sy'n chwarae i Gymru sydd wedi chwarae fel ymosodwr ac amddiffynnwr. Yn 2019 roedd yn chwarae gydag Wigan Athletic F.C..

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Moore yn Torbay, swydd Dyfnaint ac mae wedi chwarae i sawl tîm mewn sawl gwahanol haen o bêl-droed Lloegr gan gynnwys cyfnod yn Norwy. Chwaraeodd i dîm ieuectid Torbay cyn symud i chwarae i Truro, prifddinas Cernyw ac yna Dorchester. Yn ystod ei gyfnod gyda'r clybiau yma fel chwaraewr lled-broffesiynnol enillodd rhagor o gyfnod fel lifeguard ac hyfforddwr ffitrwydd personol.[2]

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Ym Mehefin 2013 ymunodd Moore â Yeovil Town F.C. Ar 3 Awst 2015 symudodd i Uwch Gynghrair Norwy, gyda'r clwb Viking F.K. yn Stavanger gan chwarae naw gêm.[3]

Dychwelodd o Norwy i Loegr gan chwarae am gyfnodau byr gyda Forest Green Rovers ac yna Torbay United F.C. Ar 15 Ionawr 2017, ymunodd â chlwb Ipswich Town F.C. ym mis Ionawr 2017.

Ar 10 Gorffennaf 2017, mae ar fenthyg i Rotherham United F.C., gan sgorio 13 gôl mewn 25 gêm.

Ar 8 Ionawr 2018, ymunodd â Barnsley F.C..

Ar 5 Awst 2019, ymunodd â Wigan Athletic F.C. tîm yn adran Championship (ail adran) Lloegr am sŵm na ddatgelwyr.[4]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Er i Moore ennill cap gydag England C (a adwaenir yn gynt fel "England National Game XI" a'r "England Semi-Pro") yn 2016, dewisodd chwarae i Gymru. Roedd yn gallu cymwyso i chwarae i Gymru drwy ei fam-gu o Gymraeg ar ochr ei fam.[5] Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn y gêm yn erbyn Belarws ym mis Medi 2019.[2] Nododd mewn cyfweliad gyda'r BBC bod ei esgyniad drwy adrannau rhan-amser a bod yn warchodwr y glannau i chwarae pêl-droed ryngwladol i Gymru yn "swreal".[2] Sgoriodd unig gôl Cymru yn y gêm gyfartal rhwng Cymru a Slofacia yn Trnava.[6]

Ymateb ffans Cymru

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn ei gôl gyntaf i Gymru yn y gêm yn erbyn Slofacia ar 10 Hydref 2019, dathlwyd ei gamp gan gefnogwyr Cymru. Cyfarchodd cyfrif Twitter Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei gôl gyda'r geiriau "Kieffer Mawr".[7] Cafwyd hefyd amrywiad ar dôn Cwm Rhondda:[8]

Head of heaven
Six foot seven
Feeeeed me till I'm Kieffer Moore (Kieffer Moore)
Feeeeed me till I'm Kieffer Moore

Rhyngwladol

[golygu | golygu cod]
Diweddarwyd match played 6 Mehefin 2025[9]
Ymddangosiadau a goliau fesul tîm cenedlaethol a blwyddyn
Tîm cenedlaethol Blwyddyn Ymddangos Goliau
Cymru 2019 5 2
2020 7 2
2021 12 4
2022 7 1
2023 8 3
2024 8 1
2025 2 1
Cyfanswm 49 14

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Yeovil Town: Gary Johnson sees Kieffer Moore potential". BBC Sport. 8 July 2013. Cyrchwyd 8 July 2013.
  2. 2.0 2.1 2.2 https://www.bbc.co.uk/sport/football/49953930
  3. "KIEFFER KLAR FOR VIKING" [Kieffer ready for Viking] (yn Norwyeg). Viking FK. 3 August 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 August 2015. Cyrchwyd 3 August 2015.
  4. "Kieffer Moore: Wigan Athletic sign striker from Barnsley for undisclosed fee". BBC Sport. 5 August 2019. Cyrchwyd 5 August 2019.
  5. "Kieffer Moore: Uncapped Barnsley striker in Wales training squad for Portugal". BBC Sport. 21 May 2019.
  6. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50005054
  7. https://twitter.com/Cymru/status/1182376347445989376
  8. https://twitter.com/hrj2605/status/1182406428348354565
  9. National-Football-Teams.com


Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.