Neidio i'r cynnwys

Microsoft Windows

Oddi ar Wicipedia
Microsoft Windows
Logo Windows
Bwrdd gwaith Windows 7
Rhyddhad diweddaraf Windows, Windows 7, yn dangos y bwrdd gwaith a'r ddechreulen
Cwmni / datblygwrMicrosoft
Rhaglennir gydaC, C++ ac iaith cydosodiad[1]
Teulu SWWindows 9x, Windows CE a Windows NT
Cyflwr gweithioRhyddhawyd yn gyhoeddus
Model ffynhonnellFfynhonnell gaeedig / Ffynhonnell ranedig
Rhyddhad gwreiddiol20 Tach. 1985 (fel Windows 1.0)
Targed marchnataCyfrifiadura personol
Iaith/ieithoedd y mae hi ar gael ynddi/ynddyntAmlieithog (rhestr o becynnau iaith Windows 7)
Dull diweddaruWindows Update, Windows Anytime Upgrade
Platfformau wedi eu cynnalARM, IA-32, x86-64 ac Itanium
Math o gnewyllynHybrid (teulu Windows NT), DOS (Windows 16-did a chyfres Windows 9x/ME)
Rhyngwyneb defnyddiwr diofynGraffigol (Cragen Windows)
TrwyddedMeddalwedd masnachol perchnogol
Gwefan swyddogolwindows.microsoft.com

Cyfres meddalwedd o systemau gweithredol, cyfrifiadurol yw Microsoft Windows, a grëwyd ac a werthir gan Microsoft. Cafodd y system weithredol Windows ei greu ar 20 Tachwedd 1985, fel atodiad (add-on) i MS-DOS.

Erbyn 1984 roedd Microsoft Windows wedi cymryd 90% o farchnad fyd-eang cyfrifiaduron personol, gan oddiweddyd gwerthiant MAC OS a oedd wedi'i sefydlu flwyddyn ynghynt (1984).

Fersiynau Cynnar

[golygu | golygu cod]
Fersiwn cyntaf Microsoft Windows, sef Windows 1.0, a ryddhawyd ym 1985

Gyda'r fersiynau cynnar iawn, dim ond y rhaglenni sylfaenol fel y cyfrifiannell, calendr, cloc, a'r panel arolygu oedd ar gael. Gelwir y fersiwn hon yn Windows 1.0. Yn ystod mis Hydref 1987, rhyddhaodd Microsoft Windows 2.0, ac wedyn Windows 2.1 tipyn ar ôl hynny.

Windows 3.0 a 3.1

[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr 1990au, rhyddhawyd Windows 3.0 a Windows 3.1. Cafodd y fersiynau yma ddyluniad newydd, a rhagor o gof rhith.

Windows 95, 98, a ME

[golygu | golygu cod]

Cafodd Windows 95 ei ryddhau yn ystod mis Awst 1995 gyda rhyngwyneb defnyddiwr graffigol newydd, cymorth ar gyfer enwau ffeiliau hyd at 255 cymeriad, a'r gallu i redeg rhaglenni 32-did. Yn ystod mis Mehefin 1998, rhyddhawyd Windows 98, ac wedyn ail fersiwn o'r enw Windows 98 Second Edition yn ystod mis Mai 1999. Rhyddhawyd Windows 2000 yn Chwefror 2000, ac wedyn Windows ME (sef Millenium Edition) ym Medi 2000.

Fersiynau Diweddar

[golygu | golygu cod]

Tua diwedd 2006, cafodd Windows Vista ei ryddhau, ac wedyn Windows 7 yn ystod mis Hydref 2009. Mae Windows 8 dal i gael ei ddatblygu.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]