Neidio i'r cynnwys

Odin

Oddi ar Wicipedia
Odin
Enghraifft o:Norse deity, duw rhyfel, brenin y duwiau Edit this on Wikidata
Rhan oÆsir Edit this on Wikidata
Enw brodorolÓðinn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Odin â'i brain Hugin (Meddwl) a Munir (Cof) (llawysgrif SÁM6, o'r 18g, yn Sefydliad Árni Magnússon yng Ngwlad yr Iâ)

Odin (Hen Norseg: Oðin) yw brenin y duwiau ym mytholeg y Llychlynwyr a'r bobloedd Almaenaidd. Mae ganddo un llygad yn unig ac mae'n cael ei hebrwng gan ei frain hud Hugin a Munir. Enw ei geffyl yw Sleipnir.

Y Dduwies Frigga yw gwraig Odin. Yn ôl rhai fersiynau o'i chwedl, mae'n dad i'r Duw Thor. Mae sillafiad ei enw yn amrywio. Roedd yr Almaenwyr/Almaenesau yn ei alw'n Wodan neu Wotan.

Roedd yn Dduw rhyfel, gwybodaeth a barddoniaeth ac yn meddu ar alluoedd hud a lledrith grymus. Mae'n noddi arwyr a rhyfelwyr ac yn eu hamddiffyn ar ôl eu marwolaeth, pan gaent eu hebrwng gan y Valkyriaid i Valhalla, neuadd Odin yn Asgard, cartref y Duwiau.

Roedd ei chwant am wybodaeth mor gryf nes iddo aberthu ei lygad de er mwyn yfed o ffynnon wybodaeth Mimir.

Ar ddiwedd y byd, bydd Odin yn arwain y Duwiau da yn erbyn lluoedd y fall ac yn ymladd â'r blaidd ofnadwy, Fenris, i amddiffyn Asgard.

Mae'r ffurf Hen Saesneg ar ei enw, Woden, i'w gweld o hyd yn yr enw Saesneg Wednesday ("dydd Woden").