Neidio i'r cynnwys

Procyon

Oddi ar Wicipedia
Procyon
Enghraifft o:spectroscopic binary Edit this on Wikidata
Màs1.5 Edit this on Wikidata
Rhan oHecsagon y Gaeaf, Triongl y Gaeaf Edit this on Wikidata
Yn cynnwysProcyon A, Procyon B Edit this on Wikidata
CytserCanis Minor Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear11.4 blwyddyn golau Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.407 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)284.56 ±1.3 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol−4.50528 ±0.021 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Goleuedd6.93 Edit this on Wikidata
Radiws1.86 Edit this on Wikidata
Tymheredd6,654 Kelvin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Seren ddisgleiriaf yng nghytser Canis Minor yw Procyon (hefyd α CMi, α Canis Minor, Alpha Canis Minor).[1] Fel arfer, mae Procyon yn bedwaredd o'r sêr disgleiriaf yn awyr y nos yn hemisffer y Gogledd, gan gyrraedd ei hanterth am hanner nos ar 14 Ionawr. Mae'n meddiannu un gornel o seroliaeth Triongl y Gaeaf.

Safle Procyon yng nghytser Canis Minor

Mae Procyon yn seren ddwbl. Mae Procyon A (maint ymddangosiadol o 0.34) yn fwy disglair; ei chydymaith, Procyon B, yn wannach (maint 10.7).

Mae'r enw "Procyon" yn deillio o'r Hen Roeg Προκύων (Prokyon), sy'n golygu "cyn y ci", gan ei fod yn rhagflaenu "Seren y Ci", sef Sirius yng nghytser Canis Major, y seren fwyaf amlwg yn yr wybren, wrth iddi deithio ar draws awyr y nos.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Procyon", SIMBAD Astronomical Database; adalwyd 12 Mehefin 2025
Eginyn erthygl sydd uchod am seren. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.