Rob Howley
Gwedd
Rob Howley | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Hydref 1970 ![]() Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, hyfforddwr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra | 175 centimetr ![]() |
Pwysau | 85 cilogram ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Bridgend Ravens, Wasps RFC, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Bridgend Ravens, Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig ![]() |
Safle | Mewnwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Hyfforddwr a chyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb yw Robert Howley (ganed 13 Hydref 1970). Roedd yn hyfforddwr ymosodol i Dîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru rhwng Rhagfyr 2023 a Chwefror 2025.[1][2]
Ganed ef ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bu'n chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi Caerdydd a Wasps. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1996 yn erbyn Lloegr. Enillodd 59 cap dros Gymru fel mewnwr, 22 ohonynt fel capten. Chwaraeodd mewn pedair gêm yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 1999.
Dewiswyd ef ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 1997, ond cafodd ei anafu. Aeth ar daith i Awstralia gyda'r Llewod yn 2001, a chwaraeodd mewn dwy gêm brawf cyn cael ei anafu eto. Ymddeolodd fel chwaraewr yn 2004.
- ↑ "Rob Howley yn dychwelyd i dîm hyfforddi Warren Gatland". BBC Cymru Fyw. 2023-12-14. Cyrchwyd 2025-02-13.
- ↑ "Rob Howley yn gadael ei rôl gyda thîm hyfforddi Cymru". BBC Cymru Fyw. 2025-02-13. Cyrchwyd 2025-02-13.