Neidio i'r cynnwys

TG4

Oddi ar Wicipedia
TG4
Enghraifft o:rhwydwaith teledu Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu31 Hydref 1996 Edit this on Wikidata
PerchennogTeilifís na Gaeilge Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolUndeb Darlledu Ewropeaidd, International Federation of Television Archives Edit this on Wikidata
PencadlysDulyn Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tg4.ie/ Edit this on Wikidata

Mae TG4 (TG Ceathair, Teledu Gwyddelig Pedwar) yn wasanaeth deledu cyhoeddus yn yr iaith Wyddelig.

Sefydlwyd ym 1996 mae'n cyrraedd 98% o gartrefi Iwerddon yn cynnwys dros wasanaeth lloeren Sky Iwerddon. Mae'r rhaglenni hefyd ar gael ar lein trwy ei wefan.

Enw gwreiddiol y sianel oedd Teilifís na Gaeilge (Teledu y Wyddelig) neu TnaG cyn ei ail-enwi'n TG4 ym 1999. Mae'r rhaglenni dyddiol yn Wyddelig ar oriau brig gyda rhaglenni eraill yn Saesneg.

Mae llawer o raglenni iaith Wyddelig wedi'u recordio gydag is-deitlau Saesneg, ond mae'r rhaglenni byw yn dueddol o fod heb is-deitlau

Er yn wasanaeth a sefydliwyd gan lywodaeth Gweriniaeth Iwerddon mae TG4 bellach ar gael yn 6 sir Gogledd Iwerddon sydd o dan reolaeth Prydain yn dilyn Cytundeb Belffast (Good Friday Peace Agreement), 1998 rhwng Llywodraethau Prydain a Gweriniaeth Iwerddon.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau

[golygu | golygu cod]