Neidio i'r cynnwys

Tei

Oddi ar Wicipedia
Tei
Mathdillad gwddf, gwrthrych hir, tenau, cyfwisg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Darn hir o ddeunydd sy'n cael ei gwisgo o amgylch y gwddf ac wedi'i glymu mewn cwlwm o dan yr ên yw tei.[1] Fel arfer caiff ei wisgo gyda chrys â choler, wedi'i guddio o dan y coler ac yn gorchuddio'r agoriad â botymau. Gellir cysylltu'r tei â blaen y crys gyda phin tei neu glip tei.

Yn draddodiadol, mae tei yn rhan o wisg gwrywaidd, ond weithiau cânt eu gwisgo gan fenywod, er bod hynny fel arfer yn rhan o ryw lifrai. Nid oes gan dei unrhyw ddiben penodol ac eithrio weithiau yn rhinwedd ei batrwm i ddangos aelodaeth o ryw grŵp neu sefydliad – clwb, ysgol, neu gatrawd, er enghraifft. Fodd bynnag, mewn rhai achlysuron ffurfiol mae tei yn rhan ofynnol o wisg dyn. Amrywiad o'r tei hir yw'r tei bô, sydd yn aml â goblygiadau hyd yn oed yn fwy ffurfiol.

Daeth teiau fel y gwyddom amdanynt heddiw i fodolaeth yn y 1870au. Fe wnaethant ddisodli'r crafatiau roedd dynion Ewropeaidd wedi'u gwisgo o amgylch eu gyddfau ers y 17g.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Steven Moore. "The history of the neck tie". The English Manner (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Mai 2025.