Neidio i'r cynnwys

Toby Jones

Oddi ar Wicipedia
Toby Jones
GanwydTobias Edward Heslewood Jones Edit this on Wikidata
7 Medi 1966 Edit this on Wikidata
Hammersmith, Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Abingdon School
  • Prifysgol Manceinion
  • L'École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq
  • Christ Church Cathedral School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, sgriptiwr, actor teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.65 metr Edit this on Wikidata
TadFreddie Jones Edit this on Wikidata
MamJennie Heslewood Edit this on Wikidata
Gwobr/auLaurence Olivier Award for Best Actor in a Supporting Role, Gwobr BIFA am Berfformiau Gorau gan Actor Mewn Ffilm Brydeinig Annibynnol, Golden Nymph for Outstanding Actor in a Television Film, OBE Edit this on Wikidata

Actor o Loegr yw Toby Edward Heslewood Jones (ganwyd 7 Medi 1966). Fe'i ganwyd Hammersmith, Llundain, yn fab i'r actor Freddie Jones a'r actores Jennifer Jones (née Heslewood).[1] Astudiodd ddrama ym Mhrifysgol Manceinion (1986–9) a L'École Internationale de Théâtre Jacques Lecoq, Paris (1989–91). Mae wedi cael gyrfa lewyrchus yn bennaf ym myd ffilm a theledu, ond hefyd yn cynnwys perfformiadau llwyfan a gafodd dderbyniad da.

Mae wedi ymddangos mewn dros 80 o ffilmiau mawr, gan gynnwys rôl Truman Capote yn y ffilm fywgraffyddol Infamous (2006), a rhannau blaenllaw yn Berberian Sound Studio (2013), Dad's Army (2016) a Mr Burton (2025)[2]. Mae wedi ymgymryd â llawer o rolau pwysig mewn dramâu teledu, gan gynnwys Alfred Hitchcock yn The Girl (2012), Lance yn y gyfres gomedi Detectorists (2014–17), a'r is-bostfeistr Alan Bates yn Mr Bates vs The Post Office (2024).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "'I'm very aware of being public school now. All those things you loathe': Toby Jones on class, character and the cost of fame". The Guardian (yn Saesneg). 16 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 4 Ionawr 2024.
  2. "Mr Burton". Ffilm Cymru. Cyrchwyd 8 Mai 2025.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: