Neidio i'r cynnwys

Vega

Oddi ar Wicipedia
Vega
Enghraifft o:seren dosbarth A y prif ddilyniant, seren forwriaethol, seren newidiol o fath Delta Scuti, seren ddwbl, ffynhonnell isgoch agos, high proper-motion star, ffynhonnell uwchfioled, seren newidiol Edit this on Wikidata
Màs2.135 ±0.074 Edit this on Wikidata
Rhan oTriongl yr Haf, Castor Moving Group Edit this on Wikidata
CytserLyra Edit this on Wikidata
Pellter o'r Ddaear7.67 ±0.03 Edit this on Wikidata
Paralacs (π)128.2 ±0.8 Edit this on Wikidata
Cyflymder rheiddiol−20.6 ±0.2 cilometr yr eiliad Edit this on Wikidata
Goleuedd40.12 ±0.45 Edit this on Wikidata
Radiws2.818 ±0.013 Edit this on Wikidata
Tymheredd9,550 ±130 Kelvin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Seren yng nghytser Lyra yw Vega (hefyd α Lyr, α Lyra, Alpha Lyrae). Mae ganddi maint ymddangosol o 0.03. Dyma'r seren ail ddisgleiriaf a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd (ar ôl Arcturus), a'r pumed o'r sêr ddisgleiriaf yn y ddau hemisffer, ar ôl Sirius (−1.46), Canopus (−0.86), Alpha Centauri (−0.27) ac Arcturus (−0.05).[1] Mae Vega yn meddiannu un gornel o seroliaeth Triongl yr Haf.

Safle Vega yng nghytser Lyra

Mae'n seren gymharol agos, dim ond 25 o flynyddoedd golau o'r Ddaear, ac, ynghyd â Sirius ac Arcturus, un o'r sêr mwyaf goleuol yng nghymdogaeth yr Haul.

Mae Vega yn gymharol ifanc o'i gymharu â'r Haul. Mae'n seren newidiol (un y mae ei disgleirdeb yn amrywio'n gyfnodol). Mae'n cylchdroi'n gyflym, gyda chyflymder o 274 km/s ar y cyhydedd, felly mae ganddi chwydd ar y cyhydedd oherwydd grym allgyrchol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Vega", SIMBAD Astronomical Database; adalwyd 2 Mehefin 2025
Eginyn erthygl sydd uchod am seren. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.