Cymun
Enghraifft o: | defod Cristnogol, sagrafen ![]() |
---|---|
Math | defod Cristnogol, defod grefyddol, dwyfysiad ![]() |
Yn cynnwys | cymun ![]() |
![]() |
- Erthygl am y ddefod yw hon. Gweler hefyd Cymun (albwm)
Defod Gristnogol yw'r Cymun (hefyd y Cymun Bendigaid, y Cymun Sanctaidd, yr Ewcarist neu Swper yr Arglwydd). Mae'r rhan fwyaf o enwadau'n cadw'r ddefod, er bod y pwysigrwydd a'r arwyddocâd maen nhw'n ei roi iddo yn amrywio'n fawr.
Yn ôl y Beibl, dechreuodd y Cymun yn y Swper Olaf, pan ddywedodd Iesu wrth ei ddilynwyr ei fod ar fin cael ei ladd. Dywedodd wrthynt am fwyta bara ac yfed gwin er cof amdano. Esboniodd, drwy wneud hynny, eu bod yn bwyta Corff a Gwaed Crist.
Yn Ioan 6:54, mae Iesu yn dweud:
Y mae gan y sawl sy'n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf fi'n ei atgyfodi ar y dydd olaf.[1]
I Eglwys Gatholig Rufeinig a rhai eraill, mae hyn yn golygu bod cymryd rhan yn y Cymun Sanctaidd yn hollbwysig er mwyn cael gwaredigaeth.
Yn ôl yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Ewcharist yw gwir bresenoldeb Iesu Grist, mab Duw. Yr Offeren yw'r gwasanaeth eglwysig lle mae hyn yn digwydd. Mae Catholigion yn credu, yn ystod Offeren, fod y bara a'r gwin yn newid yn Gorff a Gwaed Crist. Gelwir y broses hon yn Trawsylweddiad.
Yn y rhan fwyaf o eglwysi Protestannaidd, mae'r Cymun yn cynnwys bwyta darnau bach o fara neu afrllad ac yfed gwin neu sudd grawnwin dialcohol. Nid yw'r rhan fwyaf o Brotestaniaid yn credu eu bod yn bwyta corff a gwaed Iesu go iawn. Yn hytrach, maen nhw'n meddwl am gymun fel arferiad pwysig ond symbolaidd. Maen nhw'n credu eu bod yn gwneud yr hyn a orchmynnodd Iesu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig (2004)