Gwin
![]() Gwinoedd Cymreig ar werth mewn siop yng Nghaerdydd yn 2022 | |
Math | diod alcoholig wedi'i eplesu, diod ffrwythau, alcoholig ![]() |
---|---|
Lliw/iau | coch, pinc, gwyn, oren ![]() |
Deunydd | grawnwin, burum ![]() |
Dyddiad cynharaf | 54 g CC ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn cynnwys | gwin coch, gwin gwyn, gwin pefriog ![]() |
Cynnyrch | Vitis vinifera subsp. vinifera ![]() |
![]() |
Diod alcoholaidd a wneir o ffrwythau wedi'u eplesu yw gwin. Defnyddir burum i fwyta'r siwgr naturiol sydd yn y ffrwyth; yn y broses hon, caiff y ffrwyth ei drawsnewid yn ethanol a charbon deuocsid, gan ryddhau ychydig o wres yn y broses. Gwneir gwin gan amlaf allan o rawnwin, ac mae'r term "gwin" fel arfer yn cyfeirio at win a wnaed o rawnwin. Er hynny, gellir galw nifer o ddiodydd alcoholig o ffrwythau (megis eirin, ceirios, pomgranad, llus, cyrens ac ysgaw) yn win.
Mae gwahanol fathau o rawnwin ar gael a mathau gwahanol o furum: dyma rai o'r ffactorau pwysicaf sy'n rhoi blas ac arogl gwahanol i winoedd. Mae'r gwahaniaethau hyn yn deillio o ddatblygiad biocemegol y grawnwin, yr adweithiau sy'n gysylltiedig ag eplesu, amgylchedd tyfu'r grawnwin (terroir yn y Ffrangeg), a'r broses o gynhyrchu gwin. Mae llawer o wledydd yn diffinio ac yn deddfu ar enwau safonol, cyfreithiol er mwyn cadw'r safon a blas (ac arogl) unigryw gwin yr ardal. Mae'r deddfau hyn fel arfer yn cyfyngu ar yr ardal lle tyfir y gwin a'r mathau o rawnwin a ganiateir yn yr ardaloedd unigol, yn ogystal ag agweddau eraill ar gynhyrchu gwin.
Mae gwin wedi cael ei gynhyrchu ers miloedd o flynyddoedd. Ceir y dystiolaeth gynharaf o greu win o'r wlad a elwir heddiw yn Georgia, a hynny yn 6000 CC. Yn ddiweddarach, datblygwyd 'gwin yr Hen Fyd' ymhellach, gyda thechnegau newydd, ac roedd yn Ewrop tri o'r rhanbarthau cynhyrchu gwin mwyaf. Y pum gwlad cynhyrchu gwin fwyaf poblogaidd yn 2023 oedd yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, yr Unol Daleithiau a Chile.[1] Cyrhaeddodd gwin Gymru gyda'r Rhufeiniaid (gweler isod) a cheir yr enw 'Trewyn' (ger Corwen) allan o 'Dre' a 'gwin' h.y. "tre'r gwin".
'Gwindy' yw'r enw ar yr adeilad lle caiff y gwin ei gadw mewn casgenni neu boteli, 'y winwydden' yw'r enw ar y goeden lle tyf y grawnwin a 'gwinllan' yw'r enw ar ddarn o dir lle mae'r coed gwinwydd yn tyfu mewn rhesi. Defnyddiwyd y gair 'gwin' yn gyntaf yn y Gymraeg yn y 10g, mewn llawysgrif (Ox 2) VVB 138, guin, gl. vinum.ac mae'n fenthyciad o'r Lladin 'vīnum', sy'n atgyfnerthu'r cysylltiad gyda'r Rhufeiniaid.
Gwin yng Nghymru
[golygu | golygu cod]
Diod tebyg i win yw medd, ond ei fod yn cael ei wneud gyda mêl yn hytrach na grawnwin. Mae medd yn ddiod hynafol iawn gyda chysylltiadau â'r Derwyddon. Ond yn eitha diweddar y daeth y winwydden i Gymru - ni chredir cyrhaeddodd gyda'r Rhufeiniaid mae'n debyg. Bu'r mynachod yn tyfu gwinwydd aqc yn creu gwin yn yr Oesoedd Canol, ac yn y 18g aeth yr Ardalydd Bute ati ar dir Castell Coch i blannu gwinllan. Y tyfwr modern cyntaf oedd y cerddor Dr Idris Thomas a blannodd winllan yn Wern Deg, Llanarth, Ceredigion; ystyrir hon y winllan fodern gyntaf yng Nghymru.
Mae gwin Cymreig wedi’i gofrestru fel Dynodiad Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn yr UE a’r DU. Mae'r term yn cyfeirio at "win a gynhyrchir yng Nghymru o rawnwin a dyfwyd yn yr ardal ddynodedig, gan ddefnyddio dulliau rhagnodedig". Rhaid i'r cynnyrch ddefnyddio grawnwin y winwydden, sy'n tyfu ar uchder o dan 220 metr uwchben lefel y môr. Gellir addurno'r cynnyrch y tu allan i'r ardal ddynodedig ar yr amod ei fod yn agos i Gymru a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi caniatâd ymlaen llaw. Rhaid i'r cynnyrch gydymffurfio â chyfyngiadau o ran cynnwys alcohol, asideiddio a melysu.[2]

Ceir hefyd safon arall, sef gwin rhanbarthol Cymreig, sef gwin wedi'i gofrestru fel Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) yn yr UE a'r DU. Mae’r dynodiad wedi’i gyfyngu i win a gynhyrchir gydag o leiaf 85% o’r grawnwin a ddefnyddir yn cael eu cynaeafu yng Nghymru; rhaid iddo gael ei gynhyrchu o fewn Cymru neu ardal a randdirymwyd sy'n cyd-ffinio â'r ffin â Lloegr. Rhaid i'r cynnyrch gydymffurfio â chyfyngiadau o ran cynnwys alcohol, asideiddio a melysu.[3]
Hanes gwin yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Cyrhaeddodd y planhigion cyntaf Caerleon, pan oedd yr hinsawdd yn gynhesach na heddiw. Ond yn 400 OC oerodd yr hinsawdd a dychwelodd y Rhufeiniaid adre. Ond mae rhywfaint o dystiolaeth iddyn nhw blannu gwinllannoedd yma yng Nghymru. Daw'r enw Trewyn a Chaer Drewyn o'r ddau air 'tre a 'gwin', a chredir i'r winwydden gael ei dyfu ar lethrau'r gaer. Ceir llawer o dystiolaeth am win a oedd yn cael ei fewnforio o'r cyfandir.[4]
Yn yr Oesoedd Canol, bu mynachod Urdd y Sistersiaid yn tyfu'r winwydden, gan gynnwys mynachod Abaty Tyndyrn: roedd y Sistersiaid yn deillio o Ffrainc, un o ganolfannau gwinoedd y byd. Dylid cofio, wrth gwrs, am gysylltiad gwin gyda'r eglwys: bara a gwin y cymun. Daeth y cysylltiad hwn I ben, diolch I Harri VIII a diddymu'r mynachlogydd. Trodd llawer o'r uchelwyr at ddiodydd eraill megis port a sheri. Yn y 18g roedd llawer o ddiodydd yn cael eu mewnfori yn anghyfreithlon gan gymunedau Ceredigion, Penrhyn Gŵyr a llawer o lefydd eraill pan oedd smyglo yn ei anterth, gan gynnwys gwin.
Un o bobl cyfoethoca'r byd ar un adeg oedd Ardalydd Bute, a aeth ati i blanu gwinllan ger Tongwynlais a oedd ar dir Castell Coch: y winllan fodern gyntaf, ond cafodd ei chwalu yn y 1940au. Roedd y gwin o'r winllan hon yn cael ei werthu yng Ngwesty'r Angel, Caerdydd. Credir mai'r rhywogaeth gyntaf o'r winwydden a blanwyd yn fasnachol yng Nghymru oedd y Gamay noire a elwir hefyd yn Blaufränkisch, math o win tebyg i Beaujolais (Vitis vinifera). Yn 1964 tyfodd y Dr Idris Thomas winllan yn Wern Deg, Llanarth, Ceredigion, gan gynhyrchu tua 70 potel y flwyddyn ar y dechrau. Roedd hyn yn dilyn arbrawf mewn gwinwyddaeth Gymreig yn Nhrimsaran ger Llanelli gan Granville Lloyd.[5] Erbyn 1977, cafwyd cnwd o 688kg o rawnwin a botelwyd 570 potel. Y mathau o rawnwin a blannwyd ganddo oedd: Seyve-Villard (Seyval Blanc) a Muller Thurgau, gydg ychydig o goed Reichensteiner, Ortega, Perle, Chardonnay a Madeleine Sylvaner.
“ |
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win... |
” |
Heddiw, mae gwinllan 'White Castle', Aberaeron yn tyfu ac yn potelu ei win ei hun ar 12 erw o dir.[6] Yn 1975 plannodd John Bevan Winllan Glyndŵr a cheir Gwinllan Llannerch a gychwynwyd yn 1996, lle cynhelir Gwobrau Gwinoedd Cymru. Ger Caernarfon, ceir Gwinllan Pant Du, sy'n cynhyrchu gwin coch, rhosliw, seidr, dŵr ffynnon, a mêl, ac sydd wedi ennill nifer o wobrau drwy Gymru a gwledydd eraill er enghraif gwin coch Rondo (enw Gwyddonol: Vitis vinifera).[7]
Sefydlwyd Cymdeithas Gwinllannoedd Cymru yn 2013, i hybu diwydiant gwin Cymru.[8] Erbyn 2025 roedd dros 50 o winllannoedd yng Nghymru, o Fôn i Fynwy; dros 70 hectar.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Wine Producing Countries 2025". worldpopulationreview.com. Cyrchwyd 2025-05-04.
- ↑ Welsh wine — Protected designation of origin (PDO) (PDF). Department for Environment, Food and Rural Affairs. 2007. Cyrchwyd 16 July 2014.
- ↑ Welsh regional wine — Protected designation of origin (PGI) (PDF). Department for Environment, Food and Rural Affairs. 2007. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2014.
- ↑ [https://open.spotify.com/episode/5Z8oXJNBoXuptXW8l1rvfB?si=4r2RGXPWT0OUf_zbJV_Syg&nd=1&dlsi=156b60deb47745c1 Podcast Uncorked: The Welsh Wine Podcast.
- ↑ ukvines.co.uk ukvines.co.uk; adalwyd 30 Mai 2025.
- ↑ Gwinllan 'White Castle', Aberaeron adalwyd 30 Mai 2025.
- ↑ Gwefan pantdu.co.uk; adalwyd 30 Mai 2025.
- ↑ www.winetrailwales.co.uk www.winetrailwales.co.uk; adalwyd 30 Mai 2023.
- ↑ UK Vineyard Register: Full list of commercial vineyards Archifwyd 2016-04-12 yn y Peiriant Wayback, diweddariad Medi 2015'; cyhoeddwr: food.gov.uk/ ; adalwyd 19 Ebrill 2015