Iason
![]() | |
Enghraifft o: | cymeriad chwedlonol Groeg ![]() |
---|---|
![]() |
Arwr ym mytholeg Roeg oedd Iason (Hen Roeg: Ἰάσων). Yn y fersiwn mwyaf cyfarwydd o'i stori fel y'i hadroddir yn y gerdd epig Argonautica (3g CC), roedd yn fab i Aeson, brenin Iolcos yn Thesalia. Ar ôl i'w ewythr Pelias yn cipio'r deyrnas, mae Iason yn dod yn alltud ac yn cael ei fagu gan y dynfarch Chiron. Mae'n dychwelyd i Iolcos yn ddyn ifanc. Mae Pelias yn addo i Iason ei etifeddiaeth os bydd yn llwyddo i ddod â'r Cnu Aur iddo. Mae Iason yn hwylio yn y llong Argo ynghyd â chriw o arwyr - yr Argonawtiaid. Ar ôl llawer o dreialon ac anturiaethau maen nhw'd dod o hyd i'r Cnu Aur, croen hwrdd aur, ym meddiant y Brenin Aeëtes o Colchis. Maen nhw'n cipio'r cnu gyda chymorth y swynwraig Medeia merch i Aeëtes, sy'n priodi ag Iason. Ar ôl iddynt ddychwelyd i Iolcos, mae Medeia yn achosi marwolaeth Pelias. Mae hi a Iason yn cael eu gyrru allan gan fab Pelias ac yn llochesu gyda Brenin Creon o Gorinth. Yn ddiweddarach mae Iason yn gadael Medeia er mwyn canlyn Creusa, merch Creon; roedd yr anffyddlondeb hwn a’i ganlyniadau yn destun y ddrama Medeia gan Euripides.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Jason. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Ebrill 2025.