Caelum
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1750s ![]() |
Rhan o | hemisffer wybrennol y de ![]() |
![]() |
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Caelum. "Caelum" yw'r gair Lladin am "gŷn". Fe'i henwyd yn "Burin" yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'w ffurf Ladin, sef Caelum Sculptorium ("cŷn ysgythrwr"), enw a fyrhawyd yn "Caelum" gan Francis Baily yn 1845.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
