Neidio i'r cynnwys

Circinus

Oddi ar Wicipedia
Circinus
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1756 Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser pŵl bach a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Circinus. "Circinus" yw'r gair Lladin am "gwmpas". Fe'i henwyd yn "Le Compas" yn 1756 gan y seryddwr o Ffrancwr Nicolas Louis de Lacaille. Yn ddiweddarach newidiodd Lacaille yr enw i'w ffurf Ladin, sef Circinus.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Circinus

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Circinus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 23 Mawrth 2025