Volans
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Dyddiad darganfod | 1597 ![]() |
Rhan o | hemisffer wybrennol y de ![]() |
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Volans. Dyma un o'r 12 cytser deheuol sy'n deillio o arsylwadau'r mordwywyr o'r Iseldiroedd Pieter Dirkszoon Keyser a Frederick de Houtman ar ddiwedd y 16g. Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1598 ar glôb wybrennol gan Petrus Plancius o dan yr enw Vliegendenvis (sef "pysgodyn hededog") ac ymddangosodd mewn print gyntaf yn 1603 yn atlas Uranometria Johann Bayer gyda'r un enw yn ei ffurf Ladin, Piscis Volans, enw a fyrhawyd yn "Volans" gan Francis Baily yn 1845.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
