Seroliaeth
Gwedd
Enghraifft o: | math o wrthrych seryddol ![]() |
---|---|
Math | gwrthrych seryddol ![]() |
![]() |
Patrwm adnabyddadwy o sêr yn awyr y nos yw seroliaeth.[1] Mae'r sêr sy'n ffurfio seroliaeth fel arfer o ddisgleirdeb tebyg i'w gilydd. Mae hwn yn gysyniad llai ffurfiol na'r 88 cytser, sydd i seryddwyr heddiw yn rhanbarthau o'r awyr wedi'u diffinio'n glir gyda ffiniau swyddogol.
Mae'r seroliaethau mwyaf disglair yn ddefnyddiol i'r rheini sy'n ymgyfarwyddo ag awyr y nos.
Rhai enghreifftiau adnabyddus
[golygu | golygu cod]- Yr Aradr – y saith seren ddisglair yn nghytser Ursa Major
- Cleddyf Orïon – tair seren disglair ynghyd â Nifwl Mawr Orion sy'n sefyll mewn rhys yng nghytser Orïon
- Croes y De – y pedair seren ddisglair yng nghytser Crux
- Croes y Gogledd – y pedair seren ddisglair yng nghytser Cygnus (cytser)
- Gwregys Orïon – y tair seren ddisglair yng nghanol cytser Orïon
- Hyades – clwstwr sêr agored yng nghytser Taurus
- Triongl y Gaeaf – y tair seren ddisglair Betelgeuse, Procyon a Sirius
- Triongl y Gwanwyn – y tair seren ddisglair Arcturus, Spica, a Regulus
- Triongl yr Haf – y tair seren ddisglair Altair, Deneb, a Vega
- Twr Tewdws – grŵp cryno o chwech neu saith seren yng nghytser Taurus
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "asterism"